Window Display Competition 2025 Cystadleuaeth Arddangosfa Ffenestr

Pride Wrecsam invites all Wrexham businesses to decorate their shop windows in a Pride themed design for Balchder Wrecsam | Wrexham Pride 2025. Let’s create an atmosphere that spreads love and celebrates our city’s diversity!

Winners will be awarded an engraved plaque to keep for eleven months along with a framed certificate.

Runners-up and highly commended entries will be awarded a laminated certificate.

Celebrating Pride in an eco-friendly and sustainable way is really important to us. The decorations for our event are all made by Craft Connect volunteers using recycled materials and they are all reusable. This is a key criterion for the competition. Judges will be looking at:

  • Use of ethically sourced and sustainable materials (avoiding materials with negative environmental or social impacts)

  • Durability and reusability of decorations

  • Overall impression/ visual impact

  • Creativity/ ideas

  • Artistic merit

  • Effort

Window displays relying primarily on considerable expenditure to achieve their impact will not be favoured in the judging.

Window decorations must be completed for when the judging commences on 18 July.

To enter the competition, please complete the form: https://forms.gle/5qGYSE226ZW6iC4r9

Competition Rules:

Eligibility:

All shops and businesses within Wrexham County Borough are eligible.

Judging Criteria:

The window displays will be judged on the following criteria:

  • Use of ethically sourced and sustainable materials* (avoiding materials with negative environmental or social impacts)

  • Durability and reusability of decorations**

  • Overall impression/ visual impact

  • Creativity/ ideas

  • Artistic merit

  • Effort

Window displays relying primarily on considerable expenditure to achieve their impact will not be favoured in the judging.

*materials that are natural, recycled, renewable, or biodegradable. This could include materials like reclaimed wood, recycled paper, cardboard, natural fibers, or upcycled items

**consider the lifespan and potential for reuse of the display elements, promoting longevity and reducing waste

Judging:

Judging will be carried out by a panel consisting of members of the Pride Wrecsam Committee. All dressed windows must be in place for 18 July 2025. Judging will follow this and be completed by 25 July 2025. The judges' decision is final, and no correspondence will be entered into.

Mae Balchder Wrecsam yn gwahodd holl fusnesau Wrecsam i addurno ffenestri eu siop mewn dyluniad ar thema Balchder ar gyfer Balchder Wrecsam | Wrexham Pride 2025. Gadewch i ni greu awyrgylch sy'n lledaenu cariad ac yn dathlu amrywiaeth ein dinas!

Bydd yr enillwyr yn cael plac wedi'i ysgythru i'w gadw am un mis ar ddeg ynghyd â thystysgrif wedi'i fframio.

Bydd ymgeiswyr sy’n dod yn ail ac sy’n cael canmoliaeth uchel yn cael tystysgrif wedi’i lamineiddio.

Mae dathlu Balchder mewn ffordd ecogyfeillgar a chynaliadwy yn wirioneddol bwysig i ni. Mae'r addurniadau ar gyfer ein digwyddiad i gyd wedi'u gwneud gan wirfoddolwyr Craft Connect gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu ac maen nhw i gyd yn ailddefnyddiadwy. Mae hwn yn faen prawf allweddol ar gyfer y gystadleuaeth. Bydd y beirniaid yn edrych ar:

  • Ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy o ffynonellau moesegol (gan osgoi deunyddiau sydd ag effeithiau negyddol ar yr amgylchedd neu'r gymdeithas)

  • Gwydnwch ac ailddefnyddiadwyedd addurniadau

  • Argraff gyffredinol/effaith weledol

  • Creadigrwydd/syniadau

  • Teilyngdod artistig

  • Ymdrech

Ni fydd arddangosfeydd ffenestr sy'n dibynnu'n bennaf ar wariant sylweddol i gyflawni eu heffaith yn cael eu ffafrio yn y beirniadu.

Rhaid cwblhau addurniadau ffenestri erbyn i'r beirniadu ddechrau ar 18 Gorffennaf.

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, cwblhewch y ffurflen: https://forms.gle/5qGYSE226ZW6iC4r9

Rheolau'r Gystadleuaeth:

Cymhwysedd:

Mae pob siop a busnes ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn gymwys.

Meini Prawf Beirniadu:

Bydd yr arddangosfeydd ffenestr yn cael eu beirniadu yn ôl y meini prawf canlynol:

  • Defnyddio deunyddiau cynaliadwy o ffynonellau moesegol (gan osgoi deunyddiau sydd ag effeithiau negyddol ar yr amgylchedd neu'r gymdeithas)

  • Gwydnwch ac ailddefnyddiadwyedd addurniadau**

  • Argraff gyffredinol/effaith weledol

  • Creadigrwydd/syniadau

  • Teilyngdod artistig

  • Ymdrech

Ni fydd arddangosfeydd ffenestr sy'n dibynnu'n bennaf ar wariant sylweddol i gyflawni eu heffaith yn cael eu ffafrio yn y beirniadu.

*deunyddiau sy'n naturiol, wedi'u hailgylchu, yn adnewyddadwy, neu'n fioddiraddadwy. Gallai hyn gynnwys deunyddiau fel pren wedi'i adfer, papur wedi'i ailgylchu, cardbord, ffibrau naturiol, neu eitemau wedi'u hailgylchu

**ystyriwch hyd oes a'r potensial ar gyfer ailddefnyddio elfennau'r arddangosfa, gan hyrwyddo hirhoedledd a lleihau gwastraff

Beirniadu:

Bydd panel sy'n cynnwys aelodau o Bwyllgor Balchder Wrecsam yn beirniadu. Rhaid i bob ffenestr wedi'i haddurno fod yn ei lle erbyn 18 Gorffennaf 2025. Bydd y beirniadu’n dilyn hyn ac yn cael ei gwblhau erbyn 25 Gorffennaf 2025. Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol, ac ni fydd unrhyw ohebiaeth yn cael ei chynnal mewn perthynas â chanlyniad y gystadleuaeth.

Llenwch y ffurflen hon os hoffech fod yn rhan o'n tîm ar ddiwrnod y digwyddiad. Bydd angen eich help arnon ni ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, o’r gwaith gosod i helpu pobl i fwynhau’r diwrnod; o gasglu sbwriel i bacio ar y diwedd.

Please complete this form if you would like to be part of our team on the day of the event. There are a variety of activities that we will need help with, from setting up, to helping people enjoy their day, litter picking and packing down.